WW2 doll
Cafodd y ddoli ei gwau tua 1942 i ferch fach o'r enw Anita Huws oedd tua 5 oed ar y pryd ac yn byw yn Stryd Wesle, Amlwch, Ynys Mon.
Roedd tad Anita (William Huws )yn y fyddin, ac yn ymladd yr Almaenwyr yn Monte Cassino yn yr Eidal ar y pryd. Roedd Anita fach yn ddigalon iawn ac yn colli ei thad. Dyma cymdoges o'r stryd yn penderfynu gwau y ddoli iddi er mwyn codi ei chalon.
Cafodd y ddoli ei chreu allan o wlan fydda'n cael ei ddefnyddio i wau sannau a.y.yb i'r mil wyr . Cafodd y ddoli ei chadw'n ofalus gan deulu Anita am flynyddoedd lawer.
Erbyn hyn Mae Anita yn 85 oed ac yn hen fodryb I Nansi. Cafodd Nansi y ddoli ganddi am ei bod yn gwneud gwaith ar yr Ail Ryfel Byd yn Ysgol Gynradd Amlwch.
TRANSLATION
The doll was knitted around 1942 for a small girl named Anita Huws who was about 5 years old at the time and lived at Wesle Street, Amlwch, Anglesey.
Her father (William Huws) was in the army and fighting the Germans at Monte Cassino in Italy at that time. Little Anita was very sad and missed her father. A neighbour in the street decided to knit the doll for her to raise her spirits.
The doll was created using wool that was used to knit socks etc for the soldiers. The doll was kept very safely by Anita's family for many years.
By now Anita is 85 years old and is an aunt to Nansi. Nansi was given the doll fro her aunt as she was doing work about the Second World War in Amlwch Primary School.